I’w gôl, down at ein gilydd, - mae i ni
Ei gwmnïaeth beunydd.
Tafarn Sinc yw’r tafarn sydd
Yn aelwyd pob ymwelydd.
Wyn Owens

Croeso

Rydym yn cynnig ystod eang o ddiodydd alcoholig a di-alcohol (gan gynnwys cwrw casgen wedi'i fragu'n lleol), Coffi a The, ac amrywiaeth o fwyd a byrbrydau.
Cliciwch ar y "tab Dewislen" uchod, neu YMA i weld manylion y bwyd yr ydym yn cynnig.

 Ar ddiwrnodau hyfryd o haf, ymlaciwch yn ein hardaloedd awyr agored gyda golygfeydd godidog o fynyddoedd y Preseli. Neu, dewch y tu fewn a mwynhewch ein llety dan do unigryw ei naws.
Beth bynnag fo'r tywydd, gallwch fod yn sicr o groeso cynnes Cymreig yn Nhafarn Sinc
 


Lleolir Tafarn Sinc yng nghalon y Preselau oddi fewn i ysblander Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyma’r dafarn drwyddedig uchaf yn Sir Benfro i’w ganfod yng nghesail Foel Cwm Cerwyn ym mhentref bychan Rhos-y-bwlch.

 

Mae’r ffyrdd a’r feidrioedd troellog sydd yn eich arwain i’r fan yn eich tywys ar hyd wmbreth o olygfeydd godidog. Ar ôl cyrraedd fe welwch fod yno orsaf rheilffordd a nifer o deithwyr ar y platfform yn disgwyl dyfodiad y trên. Mae ar fin cyrraedd bid siŵr...

Chwaraeodd Tafarn Sinc ran amlwg ym mywyd cymdeithasol y fro ers ei sefydlu yn 1876 fel y Precelly Hotel. Cafodd ei gadw gan nifer o dafarnwyr nodedig. Yn eu plith Peg Lewis am 52 o flynyddoedd tan 1991 a theulu Brian Llewelyn, pan fabwysiadwyd yr enw presennol, am chwarter canrif gyda Hafwen a Brian 'Bici' Davies wrth y llyw'. Bellach mae’r dafarn yn eiddo i’r gymuned yn enw Cymdeithas Tafarn Sinc.

Mae’n adnabyddus ymhell ag agos am fod seiniau’r ‘wês, wês’ i’w chlywed o fewn ei furiau sinc a’r awyrgylch yn diferu o naws slawer dydd am fod hen offer amaethyddol yn gymysg â chrysau gwlanen ac ystlysau mochyn go iawn yn hongian o’r nenfydau. Heb anghofio’r pinswrn sbaddu a'r blawd llif ar y lloriau.

Ni phlygwyd i ofynion y byd modern. Deil swyn slawer dydd yn gryf. Mae i’w deimlo wrth gamu trwy’r drws. Medrwch ei anadlu. Bydd yn siŵr o adael argraff arnoch ac awydd i ddychwelyd rhywbryd eto yn glou. Clywch y rhibidirês o ganeuon Cymraeg a Chymreig fydd yn eich gwneud yn gartrefol.

Mwynhewch ramant y bryniau uwchben pryd o fwyd fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd. Cymrwch ddiod i dorri syched ar ôl cerdded ar draws crib y Preselau. Cofiwch mai ‘tafarn sinc yw’r tafarn sydd yn aelwyd pob ymwelydd’. Dewch nôl am bryd dydd Sul. Mae croeso i gŵn.

 

 


Newyddion Diweddaraf

Bwydlen y Gaeaf Newydd

Mae ein bwydlenni gaeaf cynhesu yn ôl, gan gynnwys ein cawl cartref blasus gyda ciabatta, caws Pantmawr lleol, menyn Cymreig.

Cliciwch yma am fwydlen y gaeaf newydd


Cyfranddalwyr a Benthycwyr Cyfoedion i Gyfoedion
Edrychwch ar Ardal Aelodau o'r wefan hon am y wybodaeth ddiweddaraf
Diolch


 

Achlysuron

Am fwy o fanylion am y gweithgareddau uchod ewch i'n tudalen Facebook, neu edrychwch allan am posteri, neu gofynnwch i unrhyw aelod o'r staff


I archebu bwrdd cysylltwch a,r dafarn ar 01437 532214
I osgoi siom yr ydym yn cynghori pawb i archebu bwrdd yn ystod amserau prysur rhwngmis Mai a Mis Medi

bwydlen

Hearth of hiraeth

Mae'r dafarn hon yn eiddo i'r gymuned

Aelwyd pob ymwelydd

Cyfryngau Cymdeithasol

facebook facebook facebook

Cysylltwch â Ni

Tafarn Sinc, Rhos-y-bwlch, Maenclochog, Clunderwen, Sir Benfro SA66 7QU

Ebost: admin@cymdeithastafarnsinc.cymru

Ffon: 01437 532214