I’w gôl, down at ein gilydd, - mae i ni
Ei gwmnïaeth beunydd.
Tafarn Sinc yw’r tafarn sydd
Yn aelwyd pob ymwelydd.
Wyn Owens

Mwynderau

Mwynder amlyca’r fro yw’r awyr iach ar hyd llethrau’r Preselau. Mae’n bosib cyrraedd copa Foel Cwm Cerwyn ar hyd y ffordd fyrraf o fewn hanner awr. Cymer dros deirawr hamddenol i gerdded ar hyd y grib o Foel Drygarn i Foel Eryr. Mae’r dirwedd yn gyforiog o hanes a chwedlau. Gwelir ceyrydd o’r oesoedd cynnar o gyfnod y Frythoneg a gellir cyniwair helynt hela’r Twrch Trwyth sydd wedi’i gofnodi yn y Mabinogion ac yn awdl arobryn y prifardd Tomi Evans. Mae straeon celwydd golau Wil Canaan i’w hadrodd wedyn. Mwynhewch baned o goffi yn Nhafarn Sinc ben bore cyn mentro i’r mynydd ac yna dychwelyd am bryd o fwyd a gwydraid o win.

Pan fyddwch wedi gadael yr M4 a chychwyn gyrru'n hamddenol ar hyd heolydd troellog cefn gwlad ac ambell feidr, wrth ddynesu at Tafarn Sinc, dyma fydd yn eich disgwyl. Y merlod mynydd yn eich gwahodd i gefnu ar fwrlwm a ffrwst y trefi a'r dinasoedd.

Mae'r fro yn gyfoethog o ran ei hanes. Mae i'r gair 'bro' ei hun ystyr penodol. Yn union fel 'hiraeth' mae'n anodd i'w gyfieithu. Mae gan bawb sy'n arddel yr enw Bro Preseli ymdeimlad cryf o berthyn a pherchenogaeth o'r darn o dir.

Preseli Ponies

Preseli Ponies Ebol du ar goesau sigledig a chaseg wen yn pori'n braf

Preseli Ponies

Un o feirch cyfeillgar y Preselau


Cofeb Joseph James

Cofeb Joseph James

O fewn taith gerdded fer o Dafarn Sinc i gyfeiriad y ffordd i Fynachlog-ddu fe ddewch ar draws y garreg hon. Roedd y Parch Joseph James a’i gyfaill mynwesol, y Parch R. Parri-Roberts, ymhlith y gweinidogion Anghydffurfiol fu’n arwain yr ymgyrch i atal troi’r bryniau’n faes ymarfer milwrol parhaol ar ddiwedd y 1940au. Pan gyfarfu’r ddau â chadfridogion rhyfel, a’r rheiny’n pwysleisio nad oedd gwerth amaethyddol i’r tir heblaw ar gyfer magu defaid, ymateb y ddau oedd ‘ein bod ni’n magu eneidiau yn y fro hon’. Roedden nhw’n ei gweld hi fel brwydr foesol yn hytrach na brwydr i hyrwyddo militariaeth.
Mae hanes y frwydr wedi’i chroniclo mewn llyfryn Brwydr y Preselau Yr ymgyrch i ddiogelu bryniau ‘sanctaidd’ Sir Benfro 1946-1948 gan Hefin Wyn. Mae copïau ar werth yn Tafarn Sinc.


Carnabwth

Carnabwth

Cafodd y bwthyn hwn ei godi mewn un noson yn wreiddiol. Wel, roedd rhyw fath o simdde yn ei lle erbyn toriad gwawr a mwg yn dirwyn trwyddi. Gosodwyd gwellt ar y to ac enwyd y bwthyn yn Carnabwth. Dyma gartref Thomas Rees, y gŵr a arweiniodd gwerin gwlad i ddymchwel tollborth Efail-wen yn 1839, gan arwain at Ryfel y Beca ar draws deheudir Cymru. Mae’r gŵr a ysgrifennodd yr hanes safonol am y cyfnod hwnnw, yr Athro David Williams, yn frodor o’r ardal.


W.R.

W.R.

Mae’r traddodiad o godi meini i gofio ein harwyr yn dal yn fyw. Lluniodd Wil Glynsaithmaen ei englyn milwr ei hun fel beddargraff yn dymuno dychweliad ei lwch i’r fro. Codwyd y garreg gan aelodau o barti cyngherddau Bois y Frenni fel teyrnged i’w sefydlydd. Mae’n garreg las. Mae’r Bois yn dal i ddiddanu ac yn cyfyngu eu hunain i ddeunydd W. R. Evans yn unig. I ymuno â’r mynydd Yn ddwst dychwelaf ryw ddydd At ei gôl bentigilydd


Carreg goffa Waldo

Carreg goffa Waldo

Mae’n rhaid mai dyma’r garreg goffa enwocaf yng Nghymru. Fe’i codwyd i gofio am y bardd, yr heddychwr, y gwladgarwr a’r Crynwr Waldo Williams. Adroddir stori am ymwelwyr o dramor, o weld mai prin oedd y wybodaeth a bod merlod yn pori yn y cyffiniau, yn dod i’r casgliad mai coffau march hirhoedlog oedd y garreg! O ganlyniad gosodwyd plac ar garreg lai yn ymyl yn nodi peth o hanes y gwron. Mae pererinion lu wedi cyrraedd y fangre ac yn eu plith yr awdures Angharad Tomos:

"Wrth gofeb syml Waldo, cafwyd gorffwys. Mae’n bererindod gwerth ei gwneud, yn enwedig ar ddechrau blwyddyn, yn enwedig yng nghwmni rhai annwyl. Llwyddodd Waldo i’w fynegi mewn geiriau, y rhin cyfrin hwnnw sydd i’w gael mewn cymdeithas ac mewn cymundeb â’r tir. Hwnnw na chaiff byth ei hysbysebu gan nad oes gwerth masnachol iddo. Hwnnw na ellir ei ddwyn gan nad oes iddo berchennog. Hwnnw na ellir ei ffugio gan fod yn rhaid iddo fod yn ddidwyll. Hwnnw y galwodd Waldo yn `adnabod`.

Ei brofi sy’n rhoi ystyr i’n bod. Daethom i lawr o’r mynydd. Roedden ni’n ffrindiau, yn gytun, roedd hi’n Galan, ac yn llawn gobaith. Trodd cofeb Waldo yn garreg filltir. Daethom cyn belled â hyn, ac roeddem yn cychwyn blwyddyn arall heb golli nabod ar ein gilydd. Y pnawn hwnnw teimlais y gobaith a all oresgyn popeth."

Panel Waldo - cliciwch yma

 


Capel Rhydwilym

Capel Rhydwilym

Er na cheir yno’r bwrlwm a fu mwyach fe gynhelir oedfaon cyson o hyd. Mae Rhydwilym ymhlith yr hynaf o gapeli’r Bedyddwyr. Pan ddathlwyd tri chan mlwyddiant yr achos yn 1968 cynhaliwyd oedfaon dros dridiau ac roedd yno gynulleidfa o 500 yn cymuno ar fore Sul. Pan ddathlwyd tri chan mlwyddiant a hanner yr achos yn 2018 un oedfa’n unig a gynhaliwyd. 
Perthyn rhamant i hanes y sefydlu yn ogystal ag i’r cwm coediog ei hun. Dywedir mai pladurwyr yn dychwelyd o’r cynhaeaf llafur yng nghyffiniau Cwm Olchon a Llanfaches ar hyd y Gororau arweiniodd at dorri’n rhydd o’r Eglwys Wladol yn lleol. Corfforwyd eglwys Anghydffurfiol yn 1668 o 33 o aelodau. Ymhen y flwyddyn roedd y nifer wedi cynyddu i 130 a’r rheiny yn teithio o gynifer â deugain o blwyfi yn y gorllewin yn fisol i gymuno yn Rhydwilym.
A chymaint yw rhamant y cwm ei hun fel na all yr un bws fawr fentro ar hyd y feidrioedd culion i’r fangre ar lan Afon Cleddau. Hyfryd yw clywed sŵn yr afon yn llifo yng nghanol oedfa.


Bwthyn Penrhos

Bwthyn Penrhos

Codwyd bwthyn Penrhos yn Llan-y-cefn fel tŷ unnos ar dir comin. Dywedir fod dwsin o bobl yn byw o dan ei do gwellt ar un adeg. Mae’n amgueddfa heddiw yn cael ei gadw gan Gyngor Sir Penfro. Mae’r to hŷn yn cofio am y ddwy chwaer nodedig a oedd yn byw yno – Rachel a Maria – yn estyn croeso i bawb fyddai’n cerdded heibio. Byddai’r tegell wastad yn berwi.

Am wybodaeth ychwanegol gweler:
Meini Nadd a Mynyddoedd; Eirwyn George, Gwasg Gomer 1999 
Mam-gu, Siân Hwêl a Naomi, Hanes a Hudoliaeth Bro Maenclochog; Hefin Wyn (golygydd), Clychau Clochog 2006
O’r Witwg i’r Wern; Hefin Wyn (golygydd), Cymdeithas Cwm Cerwyn 2011
Y Preselau, Gwlad Hud a Lledrith; Dyfed Elis-Gruffydd, Gwasg Gomer 2017


Hearth of hiraeth

Mae'r dafarn hon yn eiddo i'r gymuned

Aelwyd pob ymwelydd

Cyfryngau Cymdeithasol

facebook facebook facebook

Cysylltwch â Ni

Tafarn Sinc, Rhos-y-bwlch, Maenclochog, Clunderwen, Sir Benfro SA66 7QU

Ebost: admin@cymdeithastafarnsinc.cymru

Ffon: 01437 532214